S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Korma

Cynhwysion

  • 2-3 winwnsyn
  • 8 ewin garlleg
  • 60g sinsir
  • llwy fwrdd o halen
  • 1 llwy fwrdd fawr (heaped) o ghee
  • 1 llwy fwrdd fawr (heaped) o biwre tomato

Sbeis:

  • 2 lwy fwrdd: cwmin mâl, coriander mâl, gronynnau garlleg
  • 1 llwy fwrdd: powdr tsili mwyn, tyrmerig, asa foetida, siwgr brown, halen.

Dull

  1. Torrwch y winwns yn fras a'u berwi mewn 300ml o ddŵr nes bod y dŵr wedi anweddu/diflannu.
  2. Ffriwch gyda'r garlleg a'r sinsir wedi torri'n fras a'r ghee am 10 munud.
  3. Ychwanegwch y piwre tomato a choginio am funud arall cyn ychwanegu eich sbeis i gyd.
  4. Ffriwch am ychydig eiliadau eto ac wedyn ychwanegu'r 550ml o ddŵr.
  5. Mudferwch am ychydig funudau cyn blitzio.
  6. Rhowch mewn ciwbiau mewn 'tray' iâ a'u rhewi nes yn barod i'w defnyddio.

I greu korma:

  • 2 x brest cyw iâr mewn ciwbiau bach
  • 4 llwy fwrdd o iogwrt Groegaidd llawn braster
  1. Cymysgwch mewn powlen gan ddefnyddio'r un sbeisys a'r un faint â'r sylfaen cyri a 4 llwy fwrdd o iogwrt. Marineiddiwch y cyw iâr am 20 munud neu gorau po hiraf sydd gennych.
  2. Rhowch y darnau cyw iâr o dan y gril am tua 5 munud.
  3. Ychwanegwch lysiau i'r badell ar wres uchel.
  4. Ychwanegwch eich ciwbiau cyri iâ i'r badell ar wres isel fel eu bod yn toddi.
  5. Unwaith wedi toddi, ychwanegwch dun o laeth cneuen goco a ½ bloc o hufen cneuen goco (neu ½ tun o hufen cneuen goco) gyda'r ffowlyn, ynghyd ag almonau mâl.
  6. Mudferwch am tua 3 munud a gweini gyda reis, ychydig hufen dwbl ar ei ben ac addurno gyda phersli a haenau o almonau wedi'u tostio.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?