Pysgodyn wedi rhostio gyda llysiau cymysg
Cynhwysion
- 2 lwyn penfras
- 10 tomato bach
- 1 gorbwmpen
- 1 garlleg cyfan
- pupur coch
- pupur oren
- tun tomatos
- 1 llwy de Saets
- ½ llwy de taragon
- 1 llwy de Paprika
- halen a phupur
- 1 llwy de gronynnau garlleg
- olew olewydd
- finegr balsamig
- persli
Dull
- Tynnwch y pen oddi ar y garlleg cyfan, rhoi ychydig olew olewydd a halen gyda fe a'i lapio mewn ffoil a rhoi yn y popty i rostio.
- Rhowch eich llysiau wedi torri i gyd mewn powlen. Torrwch y corbwmpen a'r pupur yr un maint fel eu bod yn coginio ar yr un amser ac eistedd yn daclus ar eich fforc.
- Rhowch lond llwy fwrdd o olew olewydd neu olew afocado dros y llysiau ac yn ychwanegu'r paprika, saets, gronynnau garlleg, tarragon halen a phupur.
- Cymysgwch yn dda a'i rhoi ar hambwrdd. Griliwch am 5 munud i gael ychydig o liw ac wedyn symud i'r popty ar 200°c am 25 munud.
- Yn y cyfamser, paratowch eich penfras ar hambwrdd pobi arall. Rhowch ychydig olew arno a halen a phupur.
- Rhowch eich gril i 250°c. Rhowch y pysgodyn dan y gril am 3 munud.
- Rhowch ychydig finegr balsamig dros y pysgodyn a'i weini ar ben y llysiau wedi rhostio gydag ychydig bersli i addurno.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).
Instagram: @colleen_ramsey