S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Saws pasta

Cynhwysion

  • 2 ewyn garlleg
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 2 bupur wedi rhostio (wedi eu prynu) a'i torri'n gwrs
  • ½ jar passata
  • 1 ciwb stoc ffowlyn cyfan neu giwb stoc llysiau jeli
  • halen a phupur

Dull

  1. Cynheswch y garlleg a'r olew olewydd dros wres isel am funud, ac wedyn ychwanegu'r puprod.
  2. Coginiwch am 2 funud wedyn ychwanegu'r passata a'r ciwb stoc jeli.
  3. Trowch y gwres i fyny a dod ag ef i'r berw, wedyn trowch y gwres lawr yn is am tua 5 munud. Blitsiwch gyda blender llaw ac ychwanegu halen a phupur i flasu
  4. Cadwch ddŵr y pasta pan fyddwch chi'n ei ferwi. Arllwyswch y saws dros eich pasta gydag ychydig o'r dŵr sydd dros ben.
  5. Gweinwch gydag ychydig gaws Parmesan ffres a dail basil.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?