S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pastitsio

Cynhwysion

  • 500g briwgig eidion
  • 500g briwgig porc
  • 1 winwnsyn
  • 1 moronen
  • 1 coes seleri
  • 2 bren sinamon
  • 2 stoc eidion jeli
  • 2 lwy fwrdd past tomato
  • pasta ziti lunghi

I'r saws:

  • 800ml llaeth
  • ½ winwnsyn
  • 100g blawd
  • 100g menyn
  • 2 ddeilen llawryf
  • 5 gronyn pupur
  • ½ llwy fwrdd saets sych
  • 100g caws cheddar
  • parmesan
  • persli i orffen

Dull

  1. Ffriwch y ddwy gig gyda'i gilydd mewn ychydig olew nes wedi brownio. Rhowch mewn powlen ac arllwyswch eich stoc drosodd i gadw'r cig yn wlyb. Bydd y cig yn amsugno blas y stoc. Rhowch i'r dail ochr.
  2. Torrwch eich moron, winwns a seleri yn fân a'i ffrio yn ysgafn ar wres isel nes wedi meddalu: 10-15 munud.
  3. Yn y cyfamser, paratowch eich llaeth i wneud y bechamel. Rhowch eich llaeth, dail llawryf, saets sych, gronynnau pupur du a ½ winwnsyn mewn sosban a gadael i'r blasau gymysgu ar wres isel am tua 10 munud.
  4. Unwaith mae eich llysiau wedi meddalu, ychwanegwch eich past tomato i'r llysiau a choginio am tua munud.
  5. Ychwanegwch eich cymysgedd cig a stoc i'r llysiau a'r tomato. Ychwanegwch eich sinamon a dail llawryf. Cymysgwch yn dda a gadael i goginio am awr dros wres isel (ma' 20 munud yn ddigon os chi'n brin o amser ond ma' awr yn well).

I wneud y bechamel:

  1. Toddwch y menyn mewn sosban, ychwanegwch y blawd. Ychwanegwch y llaeth ychydig ar y tro. Ychwanegwch eich caws a gadael iddo doddi mewn i'r saws. Sesnwch i flasu.
  2. Coginiwch eich pasta am tua 7 munud – angen iddo aros ychydig yn galed yn lle ei fod yn torri.
  3. Rhowch ychydig o'r gymysgedd cig a bechamel ar eich pasta a chymysgu. Adeiladwch eich Pastitsio. Rhowch y pasta ar waelod eich dysgl, wedyn y saws cig (cofiwch dynnu'r dail llawryf a'r sinamon allan) ac yna'r bechamel.
  4. Gratiwch ychydig o barmesan dros y top ac yna coginio yn y popty ar 170° am tua 40 munud.
  5. Gadewch i setlo cyn gweini gyda salad gwyrdd.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?