S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Powlenni taco

Cynhwysion

  • 6 x tortilla maint canolig
  • 600g briwgig eidion
  • ½ winwnsyn
  • ½ pupur coch
I flasu:
  • 1 llwy fwrdd fawr (heaped): paprika, cwmin, gronynnau garlleg, gronynnau winwns
  • 1 llwy de coriander mâl
I addurno:
  • afocado
  • corn melys
  • caws wedi gratio
  • shibwns
  • ciwcymbr
  • letys
  • salsa
  • hufen sur

Dull

  1. Sleisiwch y winwns a'r pupur a chymysgwch gyda'r briwgig eidion a'r holl sbeis.
  2. Gadewch i farineiddio am tua 20 munud - dros nos yn ddelfrydol.
  3. Ffriwch ar wres uchel a sesno'n dda gyda halen.
  4. Ychwanegwch bupur cayenne a tsili os hoffech ychydig o gic, ond ni'n bwydo'r plant felly ni'n ei hepgor.
  5. Rhowch ychydig olew ar ddwy ochr y tortilla a'i rhoi ben i waered ar ramekin, a'i ddal mewn lle gyda ffoil. Pobwch am 170° am 15 munud, wedyn, tynnwch allan a phobi eto am 15 munud ar 170°. Wedyn tynnwch y ffoil a phobi am 5 munud ar 180°. Gadewch i oeri.
  6. Paratowch eich addurn tra bod y tortilla yn pobi a gweini sut bynnag yr hoffech – byddwch yn greadigol!

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?