S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Eog a grawn bulgar

Cynhwysion

  • 1 x ffiled o eog y person
  • 1 ewyn garlleg, wedi gratio
  • ½ bawb sinsir wedi gratio
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 25g grawn Bulgar
  • 1 ciwb stoc llysiau
  • saws soy i flasu
  • llond llaw o hadau sesame
  • afocado
  • ciwcwmber
  • 1 moronen, wedi gratio
  • kimchi
  • mayonnaise siracha i flasu
  • dalennau nori

Dull

  1. Marinadwch y ffiledau eog gyda'r garlleg wedi gratio, sinsir olew olewydd.
  2. Rhowch y grawn Bulgar mewn powlen fetel a gorchuddio hyd ½ modfedd uwch ei ben gyda'r stoc llysiau. Gorchuddiwch a rhoi i'r naill ochr am ¼ awr.
  3. Griliwch yr eog am 8 munud.
  4. Rhowch fforc drwy'r grawn Bulgar i'w rhyddhau ac ychwanegu ychydig saws soy i'ch blas chi.
  5. Darniwch yr eog, rhowch yr hadau sesame, afocado a'r ciwcwmber ar ei ben. Ychwanegwch y moron wedi gratio am ychydig liw. Rhowch y kimchi ac ychydig mayonnaise siracha i'ch blas chi ar ei ben.
  6. Gweinwch ar ddalennau Nori.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?