S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Bresych wedi rhostio gyda hwmws cannellini

Cynhwysion

  • bresych gwyn
  • olew olewydd
  • halen a phupur
  • gronynnau garlleg
  • bwlb garlleg a 5-6 ewyn garlleg
  • stoc
  • cnau cashew
  • 1 tun ffa cannellini
  • 1 llwy fwrdd tahini
  • persli
  • syfi
  • zaatar
  • croen oren (zest)

Dull

  1. Torrwch eich bresych gwyn yn chwarteri a rhwbio'r olew, halen, pupur a gronynnau garlleg ynddo.
  2. Rhowch ar hambwrdd pobi gyda garlleg, halen a phupur a lapio mewn ffoil. Rhowch ychydig o stoc yng ngwaelod yr hambwrdd pobi a phobi ar 170 am 90 munud. Ar ôl awr, tynnwch y garlleg ac ychwanegu mwy o ddŵr.
  3. Sociwch y cnau cashew am 15 munud. Golchwch y ffa mewn sieve a'i rhoi mewn cymysgwr (blender) gyda'r cnau cashew, tahini, bwlb o garlleg wedi rhostio a halen
  4. Gweinwch y ¼ bresych ar ben yr hwmws a rhoi'r persli, syfi, zaatar a'r zest oren ar ei ben.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?