S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Stroganoff madarch a reis

Cynhwysion

  • 1 myg reis basmati (neu digon i orchuddio gwaelod y bocs/hambwrdd byddwch chi'n defnyddio)
  • 1 llwy fwrdd mirin
  • ½ llwy fwrdd finegr gwin reis
  • olew i ffrio
  • madarch cymysg
  • ½ cwpan bach gwin marsala
  • 4 llwy fwrdd hufen dwbl
  • syfi ffres
  • taragon ffres

Dull

  1. Golchwch eich reis Basmati tan fod y dŵr yn rhedeg yn glir. Coginiwch am 10 munud. Dreiniwch ac wedyn cymysgu gyda'r finegr gwin gwyn, mirin a halen. Gwasgwch i hambwrdd wedi leinio gyda phapur ffilm.
  2. Rhowch hambwrdd arall ar ei ben i wasgu a chadw yn yr oergell am ychydig oriau.
  3. Mewn padell, ffriwch y madarch (heb olew) ac wedyn ychwanegu ychydig fenyn a seisnwch. Ar wres uchel, ychwanegwch y gwin Marsala a choginio am 30 eiliad cyn ychwanegu'r hufen.
  4. Gadwch i'r hufen dewhau ychydig ac wedyn rhoi naill ochr i oeri am ychydig.
  5. Cynheswch olew maen padell a ffrio eich reis – gallwch ei dorri i ba bynnag siâp y dymunwch. Pan fod yn euraidd, tynnwch a'i rhoi ar bapur cegin i waredu'r olew.
  6. Rhowch y gymysgedd madarch ar ben y reis ac ysgeintio gyda'r taragon a syfi ffres i weini.
Syniad: Gallwch wneud un mawr a rhoi'r llenwad mewn powlen neu wneud lot o ddarnau bach a rhannu fel dechreu-fwyd gyda ffrindiau.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?