S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pei pei caws a thatws

Cynhwysion

  • toes 'short crust' parod
  • stwnsh cawslyd (cheddar) wedi'i baratoi
  • 2 genhinen
  • menyn
  • ham hock
  • cheddar wedi gratio
  • leicester coch wedi gratio

Dull

  1. Cynheswch y popty i 170 (ffan)
  2. Leiniwch dun pobi dwfn gyda'r toes parod. Gwnewch dyllau bach gyda fforc. Ychwanegwch y papur gwrthsaim a'r ffa pobi neu reis a phobi'n ddall nes bod y toes wedi coginio.
  3. Tynnwch y ffa/reis a rhoi naill ochr i oeri. Ffriwch eich cennin mewn menyn a seisnwch yn dda gyda halen a phupur. Rhowch naill ochr i oeri.
  4. Heinwch hanner y pei gyda'r cennin a'r ham hock a'r hanner arall gyda'r 2 gaws. Rhoch eich tato pwtsh cawslyd mewn sach beipio a rhoi haenen dros y cennin a'r ham. Ail adroddwch yr haenau.
  5. Rhowch y caead toes ar ei ben. Brwsiwch gydag wy a phobi am tua 20 munud nes bod y toes yn euraidd. Gadewch i'r pei oeri i dymheredd yr ystafell cyn gweini.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?