S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Bola porc

Cynhwysion

  • darn da o fol y mochyn

I'r sbeis:

  • 2 lwy fwrdd siwgr muscovado golau
  • 1 llwy fwrdd gronynnau garlleg
  • 1 llwy fwrdd gronynnau winwns
  • ychydig o bupur du
  • digon o halen môr i orchuddio'r cig
  • chydig o finegr seidr
  • tato pwtsh
  • shibwns, wedi torri'n fân
  • llond llaw spigoglys
  • botel o seidr
  • 1 afal coch, wedi sleisio
  • 2-3 llwy fwrdd mêl
  • hufen

Dull

  1. Gofynnwch i'r cigydd am ddarn da o fol y mochyn fydd yn coginio'n gyfartal drosto.
  2. Cymysgwch y 'rub' sbeis.
  3. Rhwbiwch y sbeis dros fol y mochyn a rhoi ar hambwrdd neu blât. Sychwch y croen a'i adael heb orchudd yn yr oergell fel ei fod yn sychu allan. Gwnewch yn siŵr mai ochr y croen sydd lan.
  4. Gwnewch hambwrdd o ffoil gan orchuddio'r cig ond gadael y croen allan. Sgoriwch gyda chyllell finiog a brwsio gyda finegr seidr.
  5. Gorchuddiwch gyda halen mor neu 'rock salt.'
  6. Coginiwch am awr ar dymheredd o 180.
  7. Gwaredwch yr halen a brwsio unwaith eto gyda'r finegr.
  8. Trowch y popty i'r gwres uchaf – tua 250 fel arfer, a rhoi'r cig nôl am ½ awr.
  9. Gwnewch yn siŵr fod y 'crackling' yn crisp a gadael i orffwys cyn sleisio.
  10. Gweinwch gyda thatws rwtsh 'champ,' sef gyda shibwns a sbigoglys.

I'r saws:

  1. Toddwch lwy fwrdd o fenyn mewn padell a ffrio ychydig afal coch ar wres uchel am tua munud. Ychwanegwch y mêl. Tra bod y gwres yn uchel, ychwanegwch fotel o seidr a gadael i fudferwi nes bod y saws wedi lleihau.
  2. Ychwanegwch yr hufen a chynhesu drwyddo tan fod y saws yn ddigon trwchus i orchuddio cefn llwy.
  3. Gweinwch a mwynhewch.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?