S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Parseli mêl a feta

Cynhwysion

  • 6-7 dalen toes ffilo
  • menyn wedi toddi
  • caws feta
  • mêl
  • 1 ŵy
  • hadau sesame wedi tostio
  • cnau Ffrengig wedi torri'n fân

Dull

  1. .Cynheswch y popty i 185° (Ffan)
  2. Leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim
  3. Cymrwch 6-7 ddalen o'r toes ffilo a'i dorri yn hanner
  4. Brwsiwch y toes gyda'r menyn wedi toddi
  5. Torrwch y caws feta i giwbiau (maint llond ceg)
  6. Torrwch bob hanner o'r toes i stribedi digon llydan i lapio'r feta
  7. Rhowch y feta ynddo a'i lapio mewn i barsel
  8. Brwsiwch ychydig wy dros ei ben ac ysgeintio gyda'r hadau sesame a'r cnau Ffrengig
  9. Rhowch ar hambwrdd pobi ac yn y ffwrn am tua 15 munud.
  10. Arllwyswch digon o fêl drosodd cyn gweini

Rysaít gan Colleen Ramsey (Nadolig Colleen Ramsey).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?