S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Coctel corgimwch ag eog

Cynhwysion

I'r saws Marie Rose:

  • mayonnaise
  • sos coch
  • saws Caerwrangon
  • tabasco
  • eog wedi fygu
  • letys 'iceberg'
  • afocado
  • gorgimychiad wedi coginio a'i plicio
  • sudd lemwn
  • bara brown
  • dŵr berw
  • cennin syfi

Dull

  1. Cymysgwch y saws Marie Rose i'ch blas chi a'i rhoi ar ganol plât.
  2. Torrwch yr eog yn ddarnau bach a'u rhoi mewn cylch metal.
  3. Ychwanegwch y letys wedi darnio ac ychydig mwy o'r saws.
  4. Ar y top, rhowch yr afocado wedi torri'n fân, ychydig sudd lemwn a'r corgimychiaid wedi sleisio yn hanner.
  5. Rholiwch allan fara brown yn denau gyd pin rholio a thorri mewn i siapiau Nadoligaidd – hosan, cloch, coeden Nadolig. Tostiwch yn ysgafn (gril neu dostiwr).
  6. Garneisiwch gydag ychydig ferw'r dŵr a syfi. Tynnwch y cylch metal i ddangos yr haenau a gweinwch gyda'r tost.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Nadolig Colleen Ramsey).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?