S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Bara brith â thwist

Cynhwysion

  • 270ml dŵr
  • 2 bag tê
  • 220g siwgr brown golau
  • 300g ffrwyth sych
  • 350g blawd codi
  • 1 wy mawr
  • 60g menyn wedi meddalu
  • hufen iâ 'raspberry ripple'
  • olew chwystrell

Dull

  1. Gadewch y tê i oeri a'i dywallt dros y ffrwythau tan fod y tê wedi anweddu a bod y ffrwyth yn ei amsugno.
  2. Hufennwch y menyn, wy a hanner y blawd a'i gymysgu yn llwyr. Rhowch weddill y blawd a'i gymysgu.
  3. Rhowch mewn tin torth wedi ei chwistrelli ag olew gyda phapur gwrthsaim ar y gwaelod a rhowch yn y popty ar 150 ffan am ryw 1 awr a hanner.
  4. Ar ôl oeri, torrwch ar ei hyd deirgwaith ar ôl torri'r top i'w wneud yn fflat.
  5. Trowch dwb o hufen ia sydd wedi toddi tipyn ar blât a ffurfio math o frechdan clwb mewn haenau. (Dw i'n defnyddio 'raspberry ripple' achos mae'r blasau yn gweithio. Rhowch ffilm yn y din torth a gosod y 'frechdan' i mewn, ei orchuddio a gadael yn yr oergell dros nos neu 4 awr o oleiaf.
  6. Torrwch mewn i sleisys trwchus hyfryd a'i weini ar blât.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?