S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Okonomiyaki

Cynhwysion

  • bresych gwyn
  • halen
  • gronynnau winwns
  • gronynnau garlleg
  • 3 llwy fwrdd blawd plaen
  • dŵr
  • 1 wy

I'r 'Topin':

  • eog wedi mygu
  • darnau pysgod (flakes)
  • siracha
  • mayonnaise Siapaneiaidd
  • shibwns
  • afocado

Dull

  1. Gratiwch y bresych mewn i fowlen (neu defnyddiwch brosesydd bwyd) gyda'r gronynnau winwns a garlleg a'r halen.
  2. Rhowch y blawd a'r dŵr mewn bowlen i greu cytew.
  3. Ychwanegwch hwn i'r bresych gyda'r wy.
  4. Coginiwch fel pancws/crempog mewn padell ffrio am tua 2 funud bob ochr.
  5. Rhowch ar hambwrdd neu blât mawr ac ychwanegu'r 'topin'.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?