S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Bara hash corn bîff

Cynhwysion

  • stwnsh sydd yn wastraff
  • 1 tun cirn-bîff
  • winwns wedi ffrio
  • 1 mwg blad codi
  • llwy de halen
  • llwy de powdr pobi
  • 4 llwy fwrdd mawr o iogwrt Groegaidd

Dull

  1. Cymysgwch y stwnsh, winwns a chorn-bîff tan yn dda.
  2. Mewn powlen rhowch y blawd, halen, powdr pobi a'r iogwrt. Ffurfiwch does a'i dylino am ryw 10 munud ar fwrdd gyda blawd. Ychwanegwch mwy o flawd os mae'n dechrau sticio.
  3. Roliwch allan mewn i gylch tenau a rhoi'r hash corn-bîff ar ei ben. Plygwch y toes fewn ar ei hun ac wedyn gwthiwch i'w le a'i rolio yn ysgafn.
  4. Twymwch badell ffrio fawr ar dymheredd canolig a chwistrelli olew neu roi digon o olew i osgoi'r toes i lynu. Gadwch y toes i goginio ar bob ochr am ryw 5 munud yr un.
  5. Toddwch bach o fenyn ag ychwanegwch bach o halen a phersli. Pan mae'r bara yn barod rhowch ar fwrdd torri a brwsiwch gyda'r menyn. Gadewch i orffwys am gwpwl o funudau wedyn torrwch i fyny.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?