S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Wrap letys a phorc

Cynhwysion

  • 200g briwgig porc
  • modfedd o sinsir
  • 3 ewyn garlleg
  • 1 llwy de gronynnau garlleg
  • 1 llwy de gronynnau winwns
  • ychydig paprika
  • pinsiad cayenne
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 llwy de piwre tomato
  • 1 llwy fwrdd caws hufenngo
  • grawn bulgar (dewisol)
  • letys 'Iceberg'
  • 1 afal, wedi sleisio'n denau
  • 1 moronen, wedi gratio
  • llond llaw cnau wedi torri'n fân

Dull

  1. Cymysgwch y briwgig porc gyda'r sinsir, garlleg, gronynnau garlleg a winwns, paprika a chayenne.
  2. Ffriwch nhw tan yn brownio ac wedyn ychwanegu'r piwre tomato.
  3. Gallwch ychwanegu'r grawn bulgar fan hyn os dymunir a'r caws hufennog.
  4. Paratowch y dail 'Iceberg' a rhoi'r gymysgedd porc ynddo.
  5. Gweinwch gyda'r afal wedi sleisio, moron wedi gratio a'r cnau.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?