S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Posset ‘cacen cinio ysgol’

Cynhwysion

  • 2 leim
  • 300ml hufen dwbl
  • pecyn mafon
  • 4 llwy fwrdd cnau coco dysychedig
  • 3 llwy fwrdd siwgr 'icing'
  • 3 llwy fwrdd hufen cnau coco
  • 3 llwy fwrdd siwgr mân
  • cacen madeira

Dull

  1. Cynheswch yr hufen ac ychwanegu'r siwgr nes ei fod wedi toddi. Ychwanegwch sudd y leim.
  2. Gadewch i oeri ac yna arllwyswch i mewn i bowlenni gweini a rhowch yn yr oergell nes ei fod wedi setio - tua 8 awr neu dros nos.
  3. Unwaith y bydd wedi'i osod cymerwch y pecyn o fafon a'i stwnshio gyda fforc. Rhowch drwy ridyll i gael gwared ar y pips.
  4. Ychwanegwch y siwgr eisin i felysu. Arllwyswch dros y possets. Ychwanegwch y cnau coco sych.
  5. Crymblwch ychydig o gacen madeira i badell boeth gydag ychydig o olew.
  6. Rhowch amser iddo fynd yn frown a chreisionllyd ychydig wedyn ychwanegwch at y top ar ôl iddo oeri.
  7. Rhowch ar ben possets, nawr mae'n barod i'w weini.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?