S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Treiffl tiramisu

Cynhwysion

  • 700ml llaeth
  • rhin fanila
  • 120g siwgr
  • 30g blawd corn
  • 30g powdr cwstard
  • 4 ŵy
  • bysedd spwng
  • llwy fwrdd jam mefus neu mafon
  • tin aeron cymysg neu mafon
  • gwirodydd ceirios du (dewisol)
  • siocled gwyn wedi gratio
  • 300ml hufen
  • 150g mascarpone
  • 100ml surop fanila
  • mafon fresh
  • mafon wedi sychu (freeze dried)

Dull

  1. Chwisgiwch y siwgr gyda'r powdr cwstard a'r blawd corn. Ychwanegwch yr wyau a chymysgu nes bod y siwgr wedi toddi.Cynheswch y llaeth gyda'r fanila.
  2. Temprwch yr wyau gyda'r llaeth cynnes ac ychwanegu nôl i'r sosban gyda gweddill y llaeth.
  3. Chwisgwich am tua 5 munud gan sicrhau bod y cwstard yn dod i'r berw er mwyn coginio'r blawd. Rhowch naill ochr i oeri gan droi bob yn hyn a hyn.
  4. Gallwch roi 'cling film' ar ei ben i osgoi croen i ffurfio.
  5. Cynheswch lwy fwrdd o jam i ryddhau yn y ficro-don.Streiniwch y tun aeron cymysg neu fafon a chymysgu'r sudd gyda'r gwirodydd ceirios (dewisol).
  6. Sociwch y bysedd sbwng yn y sudd a chreu haenen o sbwng ar y gwaelod. Rhowch ychydig jam fan hyn a fan draw.
  7. Rhowch y cwstard ar ei ben, ychydig o'r siocled gwyn wedi gratio ac wedyn ail adrodd i greu haenau.
  8. Chwisgiwch yr hufen, mascarpone, fanila a'r surop fanila a'i rhoi fel haenen dop.
  9. Ychwanegwch y mafon ffres a'r mafon wedi sychu (wedi ei thorri i ddwst mewn prosesydd bwyd). Ysgeintiwch drosto.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Nadolig Colleen Ramsey).

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?