S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Gamwn Nadoligaidd

Cynhwysion

  • darn o ham (pwysau i siwtio eich teulu)
  • 1 tin o seidr
  • 1 peint o sudd afal
  • 2 ' bay leaf'
  • 1 llwy de peppercorns
  • 1 llwy de hadau coriander

Ar gyfer y sglein:

  • 50g siwgr brown golau
  • 1 llwy fwrdd o fel clir
  • 2 lwy de o fwstard
  • 2 lwy fwrdd o saws soy
  • croen 2 x clementin
  • 1 llwy fwrdd marmaled
  • cloves – i addurno

Dull

  1. Pwyso'r darn cig i weithio allan faint o amser fydd angen – 25 munud i bob 450g(1lbs) wedi iddo ddod i'r berw.
  2. Rhoi'r darn o gig i fewn i sosban fawr ac gorchuddio gyda'r seidr, sudd afal, yna dwr i orchuddio'r darn cig.
  3. Rhoi yr gweddill y cynhwysion i fewn.
  4. Ei god i ferwi yna berwi yn araf am yr amser.
  5. Yna ei godi o'r hylif a'i oeri am tua 15 munud. Tynnu'r haen croen yn ofalus yn gadael haen o fraster arno.
  6. Gwneud patrwm gyda cyllell finiog yn yr braster yn unig. Rhoi clof ym mhob sgwar / diamwnd.
  7. Cymysgu cynhwysion yr glaze a'i frwsio dros y darn cig.

Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?