S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen sinsir

Cynhwysion

  • 250g blawd codi
  • 2 lwy de bowdr sinsir
  • 1 llwy de bowdr bicarb
  • ½ llwy de bowdr sinamon
  • 100g fenyn di hallt
  • 100g surop euraidd
  • 100g triog
  • 100g siwgr brown meddal
  • 50g sinsir mewn suryp
  • 2 ŵy canolig
  • 200ml llaeth
  • 100g siwgr eisin
  • 2 lwy fwrdd surop sinsir

Dull

  1. Cynhesu'r popty i 180°c | Ffan 160°c | Nwy 4.
  2. Iro tin sgwar 20cm a'i leinio gyda papur gwrthsaim
  3. Mewn prosesydd bwyd cymysgu'r blawd, sbeisys, bicarb a'r menyn nes fel briwsion bara.
  4. Rhoi'r suryp a'r triogl mewn sosban gyda'r siwgr a'r sunsur. Cynhesu nes mae'r siwgr wedi toddi yna ei gymysgu I'r gymysgfa blawd a menyn.
  5. Ei droi i'r tin cacen a coginio am tua 40-45 munud.
  6. Tua 10 munud cyn I'r gacen fod yn barod, rhowch yr siwgr eisin mewn powlen gyda 2 lwy fwrdd o ddwr berwedig a'r suryp sunsur a'I droi yn dda.
  7. Tynnu'r gacen allan o'r popty, gadael iddo oeri am rhyw 10 munud yna neu tyllau bacha r hyd yr wyneb ac gyda llwy rhowch yr eisin suryp dros yr wyneb.
  8. Gallwch ei bwyta'n oer neu yn boeth fel pwdin.

Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?