S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Ramen

Cynhwysion
(Digon i 1)

  • 1 darn o sinsir maint bawd wedi'i gratio
  • 1 ewin garlleg wedi'u gratio
  • llond llaw/6–7 corgimwch
  • olew sesame/olewydd
  • 1 foronen wedi'i philio (llond llaw)
  • ½ bok choy
  • 1 nyth o nŵdls reis sych
  • lemonwellt
  • 2 lwy fwrdd o bast miso gwyn
  • 2 lwy fwrdd o bast gochujang
  • 375ml o dashi neu stoc (nid stoc cig eidion)

I addurno:

  • shibwns
  • coriander ffres wedi ei dorri'n fân
  • tsili ffres
  • hadau sesame
  • ½ leim

Dull

  1. Yn gyntaf, cymysgwch y sinsir a'r garlleg a'u rhoi mewn bowlen gyda'r corgimychiaid ac 1 llwy fwrdd o olew. Gadewch iddyn nhw fwydo yn y marinâd am 15–20 munud.
  2. Piliwch y moron yn ddarnau tenau gan ddefnyddio piliwr llysiau a rhannwch ddail y bok choy .
  3. Rhowch un nyth o nŵdls reis sych mewn bowlen a'u gorchuddio â dŵr berw am 3 munud, yna gwaredwch y dŵr.
  4. Cynheswch y ffreipan neu'r woc i wres canolig/uchel. Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew sesame a'r bok choy am tua 30 eiliad, ei sesno gyda halen a phupur, yna rhoi'r dail o'r neilltu yn barod i addurno. Yna ychwanegwch y corgimychiaid i'r ffreipan gyda'r sinsir a'r garlleg a'r lemonwellt.
  5. Tro-ffrïwch nes bod y corgimychiaid yn binc ar y ddwy ochr, yna i mewn â'r moron, y past miso a'r gochujang a'u troi am ryw 30 eiliad. Ychwanegwch y dashi neu'r stoc a throi nes i'r past ddiflannu a chreu ramen cyfoethog. Ychwanegwch y nŵdls reis a'u cynhesu am funud. Gwaredwch y lemonwellt a blasu – os ydych chi eisiau cic hallt yna ychwanegwch sblash o saws soi.
  6. Gweinwch y ramen mewn bowlen ac ychwanegu'r bok choy wedi gwywo, shibwns, coriander ffres wedi ei dorri, tsili ffres os ydych chi'n dymuno, hadau sesame a gwasgiad o leim ffres.

Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

Llyfr Colleen: Bywyd a Bwyd / Enjoying Life through Food (Y Lolfa)

Instagram: @colleen_ramsey

Twitter: @_C_Ramsey

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?