Ragu
Cynhwysion
- 4 ciwb o stoc cig eidion
- 1 litr o ddŵr berw
- 1500g o fins cig eidion
- 1500g o fins cig moch
- olew i ffrio
- halen a phupur
- 3 moronen
- 3 choesyn seleri
- 3 wynwnsyn gwyn mawr
- 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
- glased mawr o win coch
- 1 jar 690g o passata
- 1 llwy fwrdd o siwgr
- deilen lawryf
Dull
- Cymysgwch y ciwbiau stoc gyda 1 litr o ddŵr berw a'u rhoi o'r neilltu.
- Cymysgwch y mins cig eidion a chig moch gyda'i gilydd nes eu bod wedi'u cyfuno'n dda. Ffrïwch nhw mewn sosban fawr gydag ychydig o olew a halen a phupur fesul 4 tamaid gan frownio a charameleiddio'r cig. Rhowch y cig wedi'i frownio yn y stoc tra eich bod yn ffrio'r tamaid nesaf.
- Pan fydd y cyfan wedi brownio ac yn gorffwys yn braf yn y bath stoc, defnyddiwch yr un sosban i ffrio'r moron, y seleri a'r wynwns, wedi eu torri'n fân, mewn ychydig bach mwy o olew. Ffrïwch y rhain ar wres canolig i isel am tua 10–15 munud a sesno gyda halen a phupur.
- Pan fydd y llysiau wedi meddalu, gwasgwch 2 lwy fwrdd o biwrî tomato i mewn a'u coginio am tua munud. Codwch y gwres yn uchel ac arllwys y gwin i mewn. Defnyddiwch y gwin i grafu'r blasau bendigedig o waelod y sosban.
- Nôl mewn â'r cig a'r stoc, a hefyd y passata , y siwgr a phinsiad da o halen. Rhowch y ddeilen lawryf i mewn, rhoi'r caead ar ben y sosban a'i rhoi mewn ffwrn 160°C Ffan am 4 awr. Neu, defnyddiwch y ffwrn araf am 6–7 awr. Pan fydd yr amser ar ben defnyddiwch stwnsiwr tatws i stwnsio'r cig yn ddarnau mân.
- Gweinwch gyda'ch hoff fath o basta. Dwi'n argymell rigatoni am ei fod yn dal siâp y cig yn dda.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).
Llyfr Colleen: Bywyd a Bwyd / Enjoying Life through Food (Y Lolfa)
Instagram: @colleen_ramsey
Twitter: @_C_Ramsey