S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Ffêc away tikka masala

Cynhwysion

  • 400g brest cyw iâr
  • 400g tomato (tun)
  • 1 winwns
  • 3 clof garlleg
  • 4 llwy fwrdd puree tomato
  • 150g iogwrt naturiol
  • 100ml llaeth coconyt
  • 1 llwy fwrdd siwgr
  • 2 lwy fwrdd sinsir
  • 1 llwy fwrdd powdr cyri tikka
  • 1 llwy fwrdd paprika mwg
  • 1 llwy fwrdd hadau coriander
  • 1 llwy fwrdd hadau cwmin
  • 1 llwy de garam masala
  • coriander ffres
  • halen a phupur
  • reis basmati

Dull

  1. Mewn padell ffrio tostiwch y cwmin a'r hadau coriander i wella'r blas. Gan ddefnyddio pestl a morter neu brosesydd bwyd malu'r hadau, ychwanegwch y garlleg a'i falu gyda'i gilydd i ffurfio piwrî sbeislyd. Ychwanegwch y sbeisys powdr, paprika, powdr cyri tikka a garam masala a'u cyfuno.
  2. Ychwanegwch y piwrî tomato a dyma'r past cyri wedi'i gwblhau.
  3. Mewn padell ffrio ychwanegwch y winwnsyn wedi'i deisio a'i goginio'n ysgafn i'w feddalu. Ychwanegwch binsiad o halen i dynnu'r lleithder allan. Ar ôl 2-3 munud ychwanegwch y past cyri i'r badell winwnsyn.
  4. Ychwanegwch y cyw iâr wedi'i ddeisio i'r badell a'i frownio yn y cymysgedd sbeis.
  5. Ychwanegu'r tomatos tun, llaeth cnau coco a'r iogwrt i'r badell a dod â'r berw. Gostyngwch y gwres a mudferwch ar wres is am 10 munud.
  6. Blaswch a sesnwch yn ôl yr angen, gorffennwch y cyri gyda llond llaw o ddail coriander wedi'u torri'n ffres.
  7. Gweinwch gyda reis basmati

Rysáit gan Dan Williams, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?