S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen llus a lemwn

Cynhwysion

Cacen:

  • 250g menyn
  • 250g siwgr castir
  • 250g blawd codi
  • ½ llwy de powdr pobi
  • 4 ŵy
  • 2 lemwn
  • 400g llus (blueberries)

Eisin lemwn

  • 200g siwgr gronynnog
  • sudd o 2 lemwn

Llus mewn gin:

  • 50ml gin
  • 50g siwgr
  • 250g llus

Dull

Cacen:

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 160c
  2. Hufenwch y menyn a'r siwgr gyda'i gilydd mewn powlen fawr. Cymysgwch yn dda nes bod y cymysgedd wedi troi'n welw.
  3. Wrth gymysgu, ychwanegwch yr wyau fesul un nes eu bod wedi'u hymgorffori'n llawn.
  4. Ychwanegwch y blawd a'r powdr pobi, yna croen y lemwn. Cymysgwch yn dda nes bod y cymysgedd yn llyfn.
  5. Arllwyswch rywfaint o'r cymysgedd i dun torth wedi'i iro, yna ychwanegwch ychydig o'r llus. Parhewch i ychwanegu mwy o gymysgedd, yna mwy o llus nes bod y cymysgedd hanner ffordd i fyny'r tun.
  6. Pobwch am 30 munud nes ei fod wedi coginio.

Eisin lemwn:

  1. Cymysgwch y sudd lemwn a'r siwgr gyda'i gilydd mewn powlen neu jwg.
  2. Unwaith y bydd y gacen yn dod allan o'r popty, arllwyswch yr hylif dros y gacen. Aros iddo oeri.

Llus mewn gin:

  1. Rhowch yr holl gynhwysion mewn padell.
  2. Cynheswch yn ysgafn dros wres canolig nes bod yr hylif yn dod i'r berw. Trowch y gwres i lawr, yna mudferwch am 2 -3 munud.
  3. Rhowch yn yr oergell i oeri.

Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?