Dewisiadau
Cynnwys
Hafan
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Gwylio
Amserlenni
English
Menu
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Sgons mefus
Gan
Catrin Thomas
Llysieuol
Hawdd
Cynhwysion
400g mefus bach
2 llwy de o siwgr mân
500g o flawd codi eich hun
75g o siwgr mân
110g o fenyn
1 llwy de baking powdwr
1 wy
300ml o laeth
Dull
Rhowch y popty ar 120 ffan/nwy 1/2
Hulio a thorri'r mefus yn eu hanner. Rhowch ar hambwrdd pobi gyda phapur gwrthsaim.
Ysgeintiwch siwgr a'i rostio am 1 awr a hanner.
Tynnwch a gosod o'r neilltu.
Cynyddwch y popty i 200c ffan/nwy 7.
Ar gyfer y sgons rhwbiwch y menyn a'r blawd a'r powdr pobi. Dylai hwn fod yn debyg i friwsion bara mân.
Ychwanegwch y darnau siwgr a mefus.
Curwch yr wy i'r 300ml o laeth.
Cymysgwch gyda'i gilydd i'r cynhwysion sych gan wneud yn siŵr nad yw'n rhy wlyb.
Tylinwch ar y bwrdd a rholiwch yn ysgafn tua 4cm o drwch.
Torrwch sgons allan gyda thorrwr 7cm, ail-rolio'r toes i wneud mwy o sgons.
Brwsiwch gyda'r cymysgedd wy/llaeth sy'n weddill os oes gennych rai ar ôl os nad dim ond brwsiwch â llaeth.
Pobwch am 15/20 munud nes yn frown euraid.
Gweinwch gyda hufen tolch a mwy o fefus.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Print recipe
Argraffu'r Rysáit
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.
Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?