S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Byrgyr falafel

Cynhwysion

  • 1 tun 400g gwygbys
  • 3 shibwns, wedi'u torri'n fân
  • 1 ewin o arlleg
  • cymysgedd o berlysiau - persli, coriander
  • 1 llwy de cwmin daear
  • 1 llwy de o goriander daear
  • hanner llwy de o bast harrisa
  • 50g o flawd plaen
  • 1/2 llwy de o bowdr pobi
  • 2 neu 3 llwy fwrdd o olew blodyn yr haul
  • jam tsili, houmous neu mayo
  • byns
  • salad, winwns coch, tomatos

Dull

  1. Draeniwch y gwygbys, gan gadw'r hylif.
  2. Rhowch hanner tgr gwygbys mewn prosesydd bwyd a blitz.
  3. Ychwanegu'r shibwns, garlleg, sbeisys mâl, b. powdr a pherlysiau.
  4. Ychwanegwch y 50g o flawd plaen.
  5. Ychwanegwch ychydig o'r dŵr neilltuedig a phinsiad da o halen.
  6. Blitz i bast bras.
  7. Ychwanegwch weddill y gwygbys a blitz eto gan wneud yn siŵr eich bod yn cadw'r gwead.
  8. Rhowch mewn powlen a'i gadw yn yr oergell am 30 munud.
  9. Siapio'r cymysgedd yn 4 byrgyr, gan wneud yn siŵr eu bod yn gyfartal o ran maint.
  10. Gorchuddiwch y patties mewn 60g o flawd plaen, llwch oddi ar unrhyw swm dros ben.
  11. Cynhesu 1cm o olew blodyn yr haul dros wres canolig.
  12. Ffrio am tua 3-4 munud.
  13. Gweinwch gyda bynsen, salad, jam tsili a hwmws.

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?