S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pysgod a sglodion jin a tonig

Cynhwysion

  • 4 ffiled pysgod gwyn
  • 50ml jin
  • blawd codi
  • tonic

Sglodion:

  • 6 tatws
  • 5ltr olew
  • Pys 'mushy':
  • 2 tun pys
  • 1 bloc menyn
  • 50ml hufen dwbl

Saws tartar:

  • 100g mayo
  • 2 lwy fwrdd bara lawr
  • 1 croen lemwn
  • 50g caprys (capers)
  • 50g gherkins
  • 50g dil
  • 1 sialóts

Dull

  1. Gosodwch tray o olew, tua 5cm o ddyfnder, mewn i ffwrn ar dymheredd 220°C am 10 munud.
  2. Torrwch datws mewn i sglodion a berwch nes iddyn nhw feddalu, yna draeniwch a gadael i oeri.
  3. Yna gosodwch ar y tray a gadael i goginio yn y ffwrn nes maen nhw'n euraidd.
  4. Cymysgwch gin, blawd a thonic i greu batter.
  5. Halltwch y pysgod, yna gorchuddio mewn batter yna ffriwch mewn ffriwr ar dymheredd 180°c nes yn euraidd.
  6. Ar gyfer y pys, gosodwch yn pan, ychwanegwch fenyn a hufen, berwch yna blitsiwch nes yn mushy.
  7. Cymysgwch y saws Tartar at ei gilydd, gweinwch gyda sglodion, pysgod a phys.

Rysáit gan Shane James, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?