S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Teisen parti

Cynhwysion

  • 200g menyn
  • 225g siwgr castir
  • 225g blawd codi
  • 1 llwy de powdr pobi
  • 3 ŵy
  • 2 lwy fwrdd llaeth
  • 1 pot sprinkles lliwgar
  • 1 pot iogwrt ffrwyth
  • ffrwythau fel mafon a mandarin
  • crwst crwm
  • 25g menyn
  • 3 llwy fwrdd blawd codi
  • 3 llwy fwrdd siwgr demerara
  • 1 llwy de o sinamon

Dull

  1. Leiniwch dun pobi hirsgwar a phapur gwrthsaim 30x20cm.
  2. Gosodwch y menyn, siwgr, blawd, wyau, powdr a'r llaeth mewn powlen a chwyrlio efo peiriant llaw nes yn olau ac yn hufennog, yna plygwch y "sprinkles" iddo, gosodwch mewn tun a phobi am 25 munud ar dymheredd 180c | 350f | Nwy 4
  3. I greu'r crwm malwch y menyn i'r blawd yna fewn a'r siwgr a sbeis
  4. Ar ôl 25 munud dewch a'r deisen o'r ffwrn a gwasgarwch iogwrt yna'r ffrwythau a'r crwst crwm dros y cyfan. Nol i'r ffwrn am 20 munud. Gadwch i oeri a thorrwch yn sgwariau i weini.

Rysáit gan Gareth Richards, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?