S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Fflapjacs coffi a pecan

Cynhwysion

  • 275g menyn
  • 90g siwgr brown dywyll
  • 100g surop euraidd
  • 100ml coffi
  • 85g cnau pecan
  • 350g ceirch
  • 95g blawd plaen

Ar gyfer yr eisin:

  • 80g menyn
  • 350g siwgr eisin
  • 3 llwy fwrdd coffi
  • Cnau pecan i addurno

Dull

  1. Leiniwch tun 20cm x 25cm gyda phapur pobi.
  2. Toddwch y menyn, coffi, siwgr brown a surop euraidd mewn sosban ar dymheredd isel.
  3. Mewn bowlen, gosodwch y ceirch a chnau pecan.
  4. Arllwyswch yr hylif ar draws y ceirch a chymysgwch yn drylwyr.
  5. Gwasgwch mewn i dun a phobwch am 25 munud.
  6. Gadwch i oeri.
  7. I wneud yr eisin, toddwch y menyn. Mewn bowlen gosodwch y siwgr eisin yna'r coffi a menyn wedi toddi.
  8. Gosodwch ar ben y fflapjacs ac addurnwch gyda pecanau.

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?