S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cassoulet cig oen

Cynhwysion

Ar gyfer y cig oen

  • 1 brest cig oen
  • 100g pupur coch
  • 50g brwyniaid (anchovies)
  • 2 sbrig rhosmari
  • 1 llwy de powdr garlleg
  • 50 olifau du

Ar gyfer y cassoulet:

  • 1 tun ffacbys
  • 1 tun ffa kidney
  • 500g passata tomato
  • 1 dyrnaid asbaragws
  • 1 dyrnaid sibols
  • 1 tun ffa gwyn
  • 500ml stoc cyw iâr
  • 1 llwy de sinamon
  • 1 llwy de cwmin
  • 1 llwy de paprica wedi'i fygu
  • 2 winwns coch
  • 100g datys

Dull

  1. Torrwch y brwyniaid, pupur coch, olewydd + rhosmari a gwasgarwch du fewn y cig oen.
  2. Roliwch i fyny yn dynn a chlymwch efo cordyn.
  3. Gosodwch y ffacbys, ffa, datys, tomato, stoc, winwns + sbeisys mewn tun pobi a chymysgwch at ei gilydd.
  4. Torrwch i fyny'r asbaragws + sibols mewn i ddarnau tua 5cm a chymysgwch mewn.
  5. Gosodwch rac oeri dros y tun wrth ochr brest y cig oen.
  6. Gosodwch mewn ffwrn, 120°c | 100°c ffan | Nwy 1 am tua 6 – 6½ awr.
  7. Gwaenwch gyda Berwr y dŵr ac iogwrt mint.

Rysáit gan Shane James, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?