S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cyw iâr sbeislyd

Cynhwysion

  • 4 clun cyw iâr = £1.49
  • 25g ras el hanout = 40c
  • 25g cwmin = 45c
  • 4 tomato = 50c
  • 1 pupur coch = 15c
  • 2 moron = 10c
  • 2 winwns coch = 15c
  • 1 tatws melys = 25c
  • 4 clof garlleg = 12c
  • 50g harissa = 55c
  • 100g garlleg gwyllt = am ddim
  • 50g almonau = 70c
  • 50g parmesan = 75c
  • 100ml olew olewydd = 70c

Pryd am 4 = £6.34 (neu £1.59 yr un)

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°c.
  2. Torrwch y llysiau i gyd mewn i darnau 1 modfedd yna gosodwch mewn tun pobi efo'r garlleg.
  3. Gorchuddiwch gyda olew, halen + pupur a'r harissa. Cymysgwch yn drylwyr.
  4. Gosodwch y cluniau cyw iâr ar ben y llysiau. Torrwch y croen efo cyllell, yna ychwanegwch tamed o olew a rwbiwch y ras el hanout a cwmin mewn i'r ffowlin.
  5. Coginiwch yn y ffwrn am 1 awr.
  6. Wrth i'r ffowlin goginio, torrwch fyny y garlleg, parmesan ac almonau. Gosodwch mewn bowlen yna adiwch olew olewydd. Cymysgwch i gyfuno.
  7. Unwaith mae'r ffowlin a llysiau wedi coginio, gorchuddiwch efo tamed o pesto cyn gwaenu.

Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?