S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cyri Thai pysgod

Cynhwysion

  • 1 clof garlleg
  • 4cm sinsir
  • 1 tsili gwyrdd
  • ½ lemon wellt
  • 1 leim
  • 1 llwy de olew sesame
  • 1 llwy fwrdd saws soy
  • 1 llwy de siwgr
  • dyrnaid coriander ffres
  • 2 lwy fwrdd hufen cnau coco
  • 2 sibols
  • 1 pak choi
  • 2 lwyn cod (tua 180g yr un)

Dull

1. I wneud y past, piliwch y garlleg a sinsir a torrwch i fyny. Piliwch croen y lewonwellt a torrwch. Torrwch y tsili yn hanner, gwaredwch y hadau a torrwch. Gosodwch y cynhwysion i gyd mewn prosesydd bwyd ac ychwanegwch croen 1 leim a sudd hanner leim a blitsiwch nes iddo gymysgu. Yna, ychwanegwch olew, soy, siwgr, hufen coconyt a'r coriander a blitsiwch eto am munud. Blasiwch ac adiwch halen os fydd angen.

2. Torrwch y Pak Choi mewn hanner a golchwch yn drylwyr. Sleisiwch y sibols.

3. Tymheredd ffwrn - 200°c | 180°c | Nwy 6.

4. Torrwch 2 x 50cm sgwariau o papur neu ffoil, plygiwch yn hanner a torrwch mewn siap hanner lleuad a brwsiwch bob ochr efo olew. Agorwch i fyny y dwy hanner ar llien pobi a gosodwch hanner y pak choi ar un ochr y papur, topiwch gyda'r pysgod a torrwch "slits" yna gwasgarwch past cyri gyd drosodd.

5. Gwasgarwch y sibols drosodd a ychwanegwch ychydig o olew sesame.

6. Plygiwch drosodd y papur a gan weithio ar hyd yr ochrau lapiwch a caewch y parcel yna pobwch mewn ffwrn am 10-15 munud gan ddibynu ar trwch y pysgod.

7. Tynnwch allan y ffwrn a gwaenwch yn syth efo coriander ffres a wedge o leim.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?