S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Byns y Grog

Cynhwysion

  • 500g blawd cryf
  • 1 llwy de halen
  • 7g burum sych
  • 2 lwy de sbeis cymysg
  • 1 llwy de sinamon
  • 50g siwgr mân
  • croen 1 oren
  • 30g menyn wedi toddi
  • 225-250ml llaeth twym
  • 1 ŵy wedi'I guro
  • 125g ffrwythau sych cymysg gan gynnwys pîl cymysg (os mynnwch)
  • 50g blawd plaen
  • 2 lwy fwrdd o fêl clir

Dull

  1. Rhowch y cynhwysion sych mewn powlen gan gynnwys y ffrwythau. Gwnewch dwll yn y canol ac arllwyswch y menyn, llaeth ac wy a chymysgwch i wneud toes meddal. Os yn rhy sych ychwanegwch rhagor o laeth cynnes.
  2. Tylunwch am 10 munud ar ford wedi'I sgeintio â blawd, wedyn rhowch mewn powlen lan wedi'i uro ac olew a'Iiorchuddio a'i adael mewn lle cynnes tan bod y does wedi dwbli mewn maint (tua awr i awr a hanner).
  3. Trowch y does allan a thyluno ma cwpl o funudau wedyn rhannwch i 12 darn cytbwys a siapiwch yn beli crwn. Gosodwch ar dun pobi wedi'i uro , gorchuddiwch a thywel glan a gadewch i godi mewn man cynnes am rhyw 30 munud tan wedi dwbli.
  4. Cynheswch y ffwrn i wres 200C/180Ffan/Nwy 6.
  5. Cymysgwch 4 llwy fwrdd o ddŵr a'r blawd i wneud past, rhowch mewn bag peipo neu fag plastic gyda chornel wedi'i dorri a rhowch groes ar bob byn.
  6. Pobwch y byns am rhyw 15 munud tan yn euraidd ac yn swnion wag wrth guro ar y gwaelod. Rhowch ar hambwrdd oeri, twymwch y mel dros wres isel a brwsio dros pob un tra bod nhw dal yn gynnes.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?