S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Quiche llysiau a chaws

Cynhwysion

  • 230g blawd plaen
  • 115g menyn hallt
  • 2-3 llwy fwrdd dŵr
  • 4 ŵy
  • 100ml hufen dwbl
  • 200ml llaeth
  • bloc caws feta
  • 50g caws cheddar
  • ½ sgwash
  • 100g sbigoglys
  • 1 winwns coch
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd

Dull

  1. Yn gyntaf wnewch y toes.
  2. Rwbiwch ynghyd y menyn a blawd mewn i friwsion.
  3. Ychwanegwch dŵr i ffurfio'r toes mewn i beli bach. Gorchuddiwch yn cling ffilm a gadewch am 1 awr.
  4. Cynheswch y ffwrn i 180°c | 160°c ffan | Nwy 4.
  5. Roliwch y toes allan ar arwyneb gyda fflŵr i drwch darn arian £1.
  6. Bydd angen tun gyda gwaelod, diamedr 25cm.
  7. Gosodwch ar dun pobi. Gosodwch bapur ar ben y toes a gorchuddiwch efo ffa pobi i gadw'r bastai rhag codi.
  8. Coginiwch am 25 munud, yna gwaredwch y ffa pobi a choginiwch am 15 munud arall.
  9. Gorchuddiwch y toes efo "egg wash" a ail-osodwch yn y ffwrn am 5 munud.
  10. I baratoi'r cynnwys, gosodwch y wedges sgwash a winwns coch mewn tun rostio efo 1 llwy fwrdd olew olewydd. Ychwanegwch halen. Gwywch y sbigoglys mewn sosban am ambell funud.
  11. Draeniwch a gadwch i un ochr.
  12. Unwaith chi'n barod, i gyfuno'r quiche, gosodwch y sgwash, winwns, sbigoglys, caws feta a cheddar ar waelod y toes.
  13. Chwipiwch yr wyau, hufen a llaeth at ei gilydd. Ychwanegwch sesnin.
  14. Gosodwch y tun gyda'r toes yn y ffwrn, arllwyswch yr hylif yn ofalus ar ben.
  15. Coginiwch am 40—45 munud nes yn euraidd.
  16. Gadwch i oeri cyn platio i fyny efo Salad.

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?