S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen foron

Cynhwysion

  • 2 cwpan blawd codi
  • 1 llwy de powdr pobi
  • 2 lwy de sinamon
  • 1 cwpan olew llysiau
  • 1 ¾ cwpan siwgr brown
  • 3 ŵy
  • 2 cwpan moron wedi gratio
  • 8oz tin pinafal
  • 1 cwpan cnau pecan
  • 150g caws hufen
  • 100g menyn meddal
  • 350g siwgr eisin

Dull

  1. Seimiwch dun pobi 24cm wrth 18cm.
  2. Mewn bowlen, chwipiwch y blawd, powdr pobi a sinamon at ei gilydd, gadwch i un ochr.
  3. Mewn bowlen arall, chwipiwch yr olew a siwgr efo whisk trydanol.
  4. Ychwanegwch yr wyau 1 ar y tro. Chwipiwch nes maent yn ysgafn a drwchus.
  5. Adiwch y cynhwysion sych.
  6. Trowch mewn y moron, pinafal + sudd a chnau pecan.
  7. Arllwyswch mewn i'r tun.
  8. Pobwch am 45 munud.
  9. Gadwch i oeri.
  10. Chwipiwch y caws hufen, menyn at ei gilydd yna ychwanegwch y siwgr eisin.
  11. Gosodwch y frosting ar ben y gacen a addurnwch efo moron neu gnau.

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?