Katsu cyw iâr, reis a salad
Cynhwysion
- 1 llwy de olew
- 1 nionyn canolig (wedi ei dorri'n fras)
- 3 clof garlleg (wedi ei dorri'n fras)
- 10g sinsir ffres (wedi ei dorri'n fras)
- 1 llwy de powdr cyrri
- 1 star anise
- 2 moron
- 180g cyw iâr
- 90g reis brown
- 80g ciwcymbr
- 1 llwy fwrdd finegr
- 50g pys wedi rhewi
Dull
- Mewn ffreipan 'non stick', cynheswch yr olew dros wres canolig i isel ac ychwanegwch y nionyn ac un moron (wedi ei dorri'n fras), hefo'r star anise a choginio, gan droi o bryd i'w gilydd tan yn feddal a melys – tua 8-10munud, ychwanegwch ychydig o ddŵr os yw'r cynhwysion yn dechrau sticio i'r gwaelod.
- Ar ôl rhyw 10 munud ychwanegwch y garlleg, sinsir a pwdr cyrri a pharhau i goginio am ychydig funudau eto.
- Blitsiwch y llysiau mewn prosesydd bwyd gydag ychydig o ddŵr i greu saws trwchus. Rhowch i un ochr.
- Coginiwch y reis yn ôl cyfarwyddiadau'r paced.
- Torrwch y moron olaf a'r ciwcymbr mewn i rubanau a'i roi mewn bowlen.
- Coginiwch y pys am 1 funud mewn dŵr berwedig, draeniwch ac ychwanegwch y pys at y moron a'r ciwcymbr.
- Ychwanegwch y finegr a phinsiad o halen. Cymysgwch a gadewch i biclo.
- Tra bo'r reis yn coginio, rhowch y cyw iâr rhwng dau ddarn papur pobi a'i wasgu'n fflat gyda sosban neu rolbren.
- Brwsiwch badell 'non-stick' neu badell grilio hefo ychydig o olew a choginio'r cyw iâr tan ei fod wedi coginio.
- I weini, cynheswch y saws, rhannwch y reis, salad a'r cyw iâr rhwng dau blât a gorffen hefo'r saws katsu.
Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.
Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru
Instagram Beca: @becalynepirkis
Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru