Pasta pobi llysieuol
Cynhwysion
- 130g pasta gwenith llawn
- 1 llwy de olew olewydd
- 400g tin tomatos wedi'u torri
- 1 llwy fwrdd piwrî tomatos
- 1 nionyn canolig, wedi sleisio'n fan
- 1 pupur melyn, wedi sleisio'n fan
- 120g corbwmpen (courgettes canolig), wedi sleisio'n fan
- 3 clof garlleg, wedi torri'n fan
- 80g madarch, wedi glanhau a sleisio
- 2 coes seleri , wedi sleisio'n fan
- 30g caws mozzarella, wedi torri mewn i giwbiau 1cm
- 25g caws hanner braster, gratio
Dull
- Paratowch y llysiau fel soniwyd uchod, yna mewn sosban fawr, cynheswch yr olew dros wres canolig.
- Ychwanegwch y nionyn, pupur, corbwmpen a seleri i'r sosban, trowch bob hyn a hyn a choginio tan yn feddal – 8-10 munud. Ychwanegwch y garlleg a'r madarch a pharau i goginio am 3-5 munud arall. Ychwanegwch y piwrî tomato, cymysgu a choginio am ychydig funudau cyn ychwanegu'r pasta, tin tomatos a thin llawn o ddŵr. Rhowch flas i'r gymysgedd drwy ychwanegu halen a phupur, dewch a'r cyfan i ferwi a mudferwi am 5 munud.
- Yn y cyfamser cynheswch y popty o flaen amser i 180c ffan, torrwch y mozzarella yn giwbiau a gratiwch y caws.
- Rhowch y gymysgedd pasta mewn dysgl popty, ei orchuddio a phobi yn y popty am 15-20 munud.
- Ar ôl yr amser yma, dotiwch y mozzarella dros y popty a gwasgarwch y caws wedi gratio drosto. Rhowch y ddysgl yn ôl yn y popty a phobi am 10 munud ychwanegol. Gwiriwch fod y pasta wedi coginio cyn ei weini.
Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.
Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru
Instagram Beca: @becalynepirkis
Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru