Tagine Morocaidd llysieuol
Cynhwysion
- ½ llwy fwrdd olew olewydd
- 400g tin gwygbys (wedi draenio) (chickpeas)
- 400g tin tomatos
- 1 nionyn canolig, wedi sleisio yn fân
- 3 clof garlleg, wedi sleisio yn fân
- 1 moron mawr, wedi pilio a chiwbio
- 1 pupur coch, wedi sleisio'n fân
- 2 coes seleri, wedi ciwbio
- 4 bricyllen, wedi ciwbio
- 1 llwy de cinnamon mâl
- 1 llwy de cumin mâl
- 1 llwy de coriander mâl
- 40g couscous
- halen i flasu
I weini:
- 1 llwy fwrdd naddion almwnd, wedi tostio
- bwnsh bach persli ffres, wedi torri
- bwnsh bach mint ffres, wedi torri
- 1 llwy fwrdd iogwrt braster 0%
Dull
- Mewn sosban fawr, cynheswch yr olew dros wres isel-canolig ac ychwanegu'r nionod, pupur, moron a seleri wedi sleisio/torri.
- Coginiwch gan droi bob hyn a hyn tan eu bod yn feddal a melys – tua 10-12 munud.
- Ar ôl yr amser yma ychwanegwch y garlleg, bricyll a gwygbys (chickpeas) a choginio am 3-4 munud pellach.
- Nesaf ychwanegwch y sbeisys a choginio am ychydig funudau cyn ychwanegu'r tomatos.
- Rhowch binsiad go lew o halen, cymysgu a'i adael i fudferwi, gan droi bob hyn a hyn, am 20 munud.
- Ar ôl yr 20 munud, coginiwch y couscous yn ôl cyfarwyddiadau'r paced (fel arfer yr un maint o ddŵr a couscous), rhowch mewn bowlen hefo dŵr berwedig, cymysgu a'i orchuddio a'i adael i amsugno'r dŵr am ychydig funudau.
- Yn y cyfamser tostiwch yr almwnd a thorri'r perlysiau yn barod i weini.
- Rhannwch y couscous rhwng 2 fowlen, yna hanner y tagine.
- Gwasgarwch ychydig o'r iogwrt drosto a gorffen drwy ychwanegu'r perlysiau a'r almwnd.
Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.
Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru
Instagram Beca: @becalynepirkis
Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru