S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen siocled

Cynhwysion

  • 150g blawd hunan codi
  • 30g coco
  • 1 llwy de powdr pobi
  • 175g muscovado neu siwgr brown
  • 175g menyn
  • 3 ŵy
  • 1 llwy de fanila (extract)
  • 50g siocled tywyll

Eisin cyffug:

  • 200g menyn
  • 200g siwgr eisin
  • 200g siocled tywyll

Dull

  1. Seimiwch 2 tun 20cm gyda menyn.
  2. Gosodwch y cynhwysion cacen i gyd mewn i brosesydd bwyd a chymysgwch nes yn esmwyth.
  3. Gwahanwch y cymysgedd yn gyfartal rhwng y tuniau, pobwch am 20 munud. Gadwch am 5 munud yna gosodwch ar rac i oeri.
  4. Cymysgwch y menyn a siwgr eisin, ychwanegwch y siocled wedi'i doddi, cymysgwch yna gwasgwch yr haenau at ei gilydd ac addurnwch y top.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?