S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen hash hwyaden

Cynhwysion

  • 2 coes hwyad
  • 100g tatws stwnsh
  • 2 sibols
  • 15g coriander
  • 15g 5 sbeis tsieniaidd
  • 25g blawd plaen
  • 2 ŵy hwyad
  • 25g balsamic
  • 25g saws hoi sin

Dull

  1. Gosodwch yr hwyad mewn hambwrdd, ychwanegwch halen a phupur yna pobwch am 1 awr.
  2. Ar ôl pobi, tynnwch yr hwyad i ffwrdd yr asgwrn a gosodwch y cig a'r sudd mewn i bowlen fawr.
  3. Mewn i'r bowlen; adiwch y tatws stwnsh, sibols, coriander a 5 sbeis tsieniaidd. Cymysgwch yn drylwyr.
  4. Ffurfiwch y cymysgedd mewn i patties bach, yna rhowch yn yr oergell nes iddyn nhw galedu.
  5. Cynheswch ffrimpan i dymheredd cymedrol, ychwanegwch olew.
  6. Dystiwch yr hwyad gyda mymryn o flawd, yna ffriwch am 2-3 munud ar y ddau ochr nes iddyn nhw droi'n euraidd.
  7. Yn dilyn hynny, rhowch ar blât yna ffriwch yr wyau.
  8. Unwaith iddyn nhw ffrio gosodwch yr wyau ar ben y cacennau hash.
  9. Mewn bowlen glan, cyfunwch y balsamic a hoi sin. Cymysgwch yn dda yna gwaenwch gyda'r hwyad.

Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Mwy o Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?