S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cyri ffêc away

Cynhwysion

  • 2 lwy fwrdd olew
  • 4 darn brest cyw iâr
  • 2 winwns
  • 1 llwy fwrdd sinsir ffres
  • 2 ewyn garlleg
  • 1 pupur coch
  • ½ llwy de cardamon
  • ¼ llwy de clof
  • 1 llwy fwrdd powdr cyri
  • 1 llwy fwrdd tyrmerig
  • 1 llwy de cwmin
  • 1 llwy fwrdd blawd plaen
  • 450ml stoc cyw iâr
  • 2 lwy fwrdd picl mango
  • 100ml iogwrt

Dull

1. Cynheswch olew mewn padell ffrio.

2. Gosodwch halen a phupur ar y cig a selio yn gyflym yn y badell yna drowch i blât.

3. Ffriwch y winwns nes bod yn feddal (tua 10 min).

4. Mewn â'r sinsir, garlleg, pupur a'r sbeis a ysgeintiwch y blawd drosto gymysgwch ac yna fewn ar stoc a mudferwi nes bod yn drwchus tua 25 min a'r gig wedi coginio.

5. Nesaf fewn â'r picl a'r iogwrt, cynheswch a gwaenwch efo reis a bara i greu'r naan. Gosodwch 200g o flawd codi mewn powlen gyda lwy bwdin o hadau winwns du a ffurfiwch yn does efo gweddill yr iogwrt

6. Torch yn ddarnau rholiwch yn denau a ffriwch am tua 2 min bob ochr mewn padell ffrio nes bod yn lliw euraidd.

Rysáit gan Gareth Richards, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?