S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Tarten fricyll

Cynhwysion

Ar gyfer y toes melys:

  • 75g menyn meddal
  • 60g siwgr eisin wedi ei hidlo
  • 150g blawd
  • 1g powdwr pobi
  • 25g cnau cyll mâl
  • 1 ŵy
  • pinsied o Halen Môn

Ar gyfer y frangipane cnau cyll:

  • 100g menyn meddal
  • 100g siwgr caster
  • 100g cnau cyll mâl
  • 2 ŵy
  • pinsied o Halen Môn
  • 1 bricyllen

Ar gyfer y surop Earl Grey:

  • 100ml frangelico
  • 100g siwgr
  • 1 llwy de o de Earl Grey

Dull

  1. Yn gyntaf, cynheswch y popty i wres o 160°C. Ar gyfer blas moethus y cnau cyll, tostiwch 25g o'r cnau cyll mâl nes yn euraidd. Curwch y menyn a'r siwgr gyda'i gilydd gyda chymysgwr nes yn esmwyth. Ychwanegwch yr ŵy a'i guro nes ei fod wedi ei gymysgu. Hidlwch y blawd, powdwr pobi a'r halen gyda'i gilydd cyn eu hychwanegu yn araf i'r gymysgedd.
  2. Yn olaf, ychwanegwch y cnau cyll wedi eu tostio i'r gymysgedd nes bod y toes yn ffurfio pelen. Gorchuddiwch gyda cling film a'i adael i oeri am 20 munud yn yr oergell.
  3. Rholiwch y toes i drwch o 5mm a'i bobi yn y popty am 15 munud. Peidiwch â phoeni os nad yw'n edrych fel ei fod wedi coginio – mi fyddwch chi'n ei roi yn ôl yn y popty yn hwyrach ymlaen.
  4. Defnyddiwch dun cylch ar gyfer tartenni, torrwch y toes a rhowch bapur pobi yn y tun.
  5. Eto, tostiwch y cnau cyll nes yn euraidd. Curwch y menyn a'r siwgr gyda chymysgwr nes yn olau. Ychwanegwch un ŵy ar y tro a'i gymysgu.
  6. Yna, ychwanegwch y cnau cyll a'r halen a'i gymysgu nes yn esmwyth.
  7. Rhowch y gymysgedd mewn bag i'w beipio i mewn i'r tun ar ben y toes. Sleisiwch y fricyllen a'i gosod ar ben y gymysgedd. Pobwch am 20 munud.
  8. Dewch a'r cynhwysion i'r berw mewn sosban. Hidlwch y gymysgedd ar ôl 2 funud a thynnwch y dail te. Yna, brwsiwch y gymysgedd yn hael ar ben y darten.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.

Rysáit gan Richard Holt.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?