S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Brioche eirin gwlanog

Cynhwysion

Ar gyfer y tost Ffrengig:

  • 1ml o laeth
  • 1ml hufen chwipio
  • 20g siwgr
  • 2 melynwy
  • brioche
  • sgwaryn o fenyn

Ar gyfer yr eirin gwlanog:

  • 300ml o ddŵr
  • 300ml gwin gwyn
  • 150g siwgr caster
  • 4 deilen bae
  • oren wedi ei sleisio
  • lemwn wedi ei sleisio
  • 3 eirin gwlanog

Dull

  1. Mewn powlen, chwipiwch y melynwy a'r siwgr gyda'i gilydd yn dda. Dewch a'r llaeth a'r hufen i'r berw cyn ei arllwys dros y gymysgedd wy.
  2. Torrwch y brioche yn ddarnau (mae hen fara yn gweithio'n well) a'i socian yn y gymysgedd cwstard.
  3. Ar wres canolig, ffriwch y darnau brioche wedi'i socian gydag ychydig o fenyn nes yn euraidd ar y ddwy ochr ac wedi coginio yn y canol.
  4. Dewch a'r dŵr, gwin, siwgr, dail bae, oren a lemwn i'r berw mewn sosban. Rhowch yr eirin gwlanog yn y sosban i fudferwi am 7 munud. Fe ddylai hynny fod yn ddigon o amser iddyn nhw feddalu a'r croen i'w blicio i ffwrdd yn hawdd. Tynnwch yr eirin o'r gymysgedd ynghyd â'r dail bae, oren a lemwn gan adael yr hylif i droi yn surop esmwyth.
  5. Sleisiwch yr eirin tra'n gynnes a'u gosod ar ben y tost Ffrengig.
  6. I'w weini gydag ychydig o ddail coriander a deilen aur.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.

Rysáit gan Richard Holt.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?