S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Bisgedi jam ceirios

Cynhwysion

Ar gyfer y bisgedi:

  • 200g menyn meddal
  • 150g siwgr eisin (wedi ei hidlo)
  • 1 ŵy
  • 360g blawd (wedi ei hidlo)
  • 30g powdr cocoa (wedi ei hidlo)
  • croen oren
  • pinsiad o Halen Môn

Ar gyfer y ganache:

  • 250g siocled tywyll
  • 180g hufen chwipio
  • 70ml port
  • 30g menyn

Dull

  1. Cychwynnwch trwy gymysgu'r menyn a'r siwgr eisin gyda'i gilydd mewn cymysgwr nes yn olau a'n ysgafn. Ychwanegwch un wy a'i guro yn dda.
  2. Yn araf, ychwanegwch y blawd a'r powdwr cocoa a'i guro'n araf.
  3. Ychwanegwch y croen oren a phinsiad o halen mor. Curwch nes bod y gymysgedd yn ffurfio pelen.
  4. Tra bod y toes yn feddal, rholiwch rhwng dau damaid o bapur pobi neu ddalen pobi silicon a'i adael i oeri yn yr oergell neu rhewgell am 30 munud.
  5. Ar ôl 30 munud, torrwch gylchoedd o'r toes a chylchoedd llai yn y canol ar gyfer y jam.
  6. Dewch â'r hufen i'r berw cyn ei arllwys ar ben y siocled. Cyfunwch yn dda gyda blender llaw cyn ychwanegu'r menyn.
  7. Gwnewch yn siŵr bod yr holl gynhwysion wedi'u cymysgu yn dda cyn ychwanegu'r port.
  8. Gadewch y gymysgedd i oeri cyn ei roi mewn bag peipio.
  9. I osod y bisgedi, peipiwch y ganache mewn cylch o amgylch y fisged gan adael lle yn y canol. Rhowch ychydig o'r jam ceirios yn y canol cyn ei orchuddio gyda bisged arall i'w gwblhau!

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.

Rysáit gan Richard Holt.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?