S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

​Clafoutis ceirios

Cynhwysion

  • 20g menyn (gydag ychydig yn ychwanegol i'w frwsio)
  • 2 ŵy
  • 3 lwy fwrdd o siwgr caster
  • 1 llwy fwrdd o flawd
  • 75g o laeth
  • 75g o hufen
  • pinsied o Halen Môn
  • hufen ia fanila
  • 4 sbrigyn o tarragon
  • siwgr caster euraidd i'w weini
  • digon o geirios aeddfed

Dull

  1. Cynheswch y popty i wres o 180 gradd selsiws.
  2. Toddwch y menyn mewn padell dros wres isel nes iddo droi yn frown fel cneuen, yna gadewch i oeri ychydig.
  3. Mewn powlen, chwipiwch yr ŵy, siwgr a blawd nes yn esmwyth.
  4. Ychwanegwch y menyn yn ofalus i'r gymysgedd wyau gan ei chwipio yn gyson.
  5. Dewch a'r llefrith a'r hufen i'r berw cyn eu chwipio i mewn i'r gymysgedd wyau.
  6. I orffen, tynnwch y dail oddi ar y sbrigyn o tarragon a'i flendio yn y cytew. Fel arall, fe allwch chi dorri'r dail yn fan cyn eu hychwanegu i'r cytew.
  7. Brwsiwch waelod eich dysglau gyda menyn. Gorchuddiwch waelod y dysglau gyda cheirios gan wneud yn siŵr eich bod wedi tynnu'r cerrig o bob un. Yna, gorchuddiwch y ceirios gyda'r cytew.
  8. Pobwch am 17 munud nes bod y cytew wedi coginio.
  9. Unwaith mae'r clafoutis wedi ei goginio, gorchuddiwch gyda siwgr caster euraidd a'i roi o dan y gril nes ei fod wedi carameleiddio.
  10. I'w weini gyda sgŵp o hufen ia fanila a deilen aur.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.

Rysáit gan Richard Holt.

Ryseitiau Richard Holt:

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?