S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Soufflé bara brith

Cynhwysion

  • 180g gwynwy
  • 35g siwgr caster
  • 100g bara brith
  • 40g wisgi
  • menyn meddal i'w frwsio
  • siwgr gronynnog i orchuddio

Dull

  1. Cynheswch y popty i wres o 200°C
  2. Cychwynnwch trwy frwsio 2 ramekin gyda menyn meddal – brwsiwch am i fyny sef ffordd fydd y souffle yn codi.
  3. Llenwch un ramekin gyda'r siwgr gronynnog a'i arllwys i'r ramekin arall wrth orchuddio'r ochrau. Rhowch yn yr oergell nes y byddwch angen eu defnyddio.
  4. Cynheswch y bara brith yn y popty neu yn y micro-don. Yna, cyfunwch gyda'r wisgi i ffurfio past trwchus.
  5. Mewn cymysgwr, ychwanegwch y gwynwy a thraean o'r siwgr caster a'i chwipio ar gyflymder uchel. Ychwanegwch weddill y siwgr yn araf nes bod y gymysgedd yn stiff.
  6. Curwch lwyaid o'r meringue yn y past bara brith. Plygwch weddill y gwynwy i'r gymysgedd bara brith yn araf, traean ohono ar y tro.
  7. Yna, rhowch y gymysgedd mewn bag peipio a'i beipio i'r ramekins gan wneud yn siŵr bod y gymysgedd yn llenwi'r corneli. Gwnewch yn siŵr bod y wyneb yn llyfn gan ddefnyddio cyllell balet os oes angen. Rhowch eich bawd o amgylch ochrau'r ymylon fel na fydd y souffle yn glynu wrth godi.
  8. Rhowch y souffle mewn popty poeth a chaewch y drws yn ofalus. Trowch y gwres i lawr i dymheredd o 180°C unwaith i chi gau'r drws.
  9. Pobwch am 14 munud.

Cynhwysion y saws Worther's Original

  • 100g losin Worther's Original
  • 100g hufen chwipio

Dull ar gyfer y Saws

  1. Toddwch y losin mewn sosban yn ofalus.
  2. Cynheswch yr hufen mewn sosban a'i ychwanegu i'r losin wedi meddalu.
  3. Ychwanegwch binsiad o halen môr a'i gymysgu'n dda.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.

Rysáit gan Richard Holt.

Mwy gan Richard Holt:

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?