S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Bisgedi mafon a siocled gwyn

Cynhwysion

  • 125g menyn
  • 125g siwgr castir
  • 85g llaeth tewychedig
  • 175g blawd codi
  • siocled
  • basged o mafon

Dull

  1. Mewn bowlen fawr, hufennwch y menyn a siwgr nes maent yn olau yna trowch yn y llaeth.
  2. Hidlwch y blawd yna gweithiwch mewn i does meddal gyda'ch dwylo.
  3. Cymysgwch yn y siocled a chymrwch dwrn bach o'r toes gan gwastadu efo'ch bysedd.
  4. Gosodwch 2-3 mafon mewn yng nghanol y cookie a gosodwch ar dun pobi.
  5. Pobwch am 15 i 18 munud, neu nes yn euraidd.
  6. Gadwch i oeri ychydig cyn symud nhw ar ei rac oeri.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Ryseitiau Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?