S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pancws caws Cymreig

Cynhwysion

  • 2 lwy fwrdd menyn
  • 600ml llaeth
  • ½ llwy de halen
  • 1 cwpan blawd gwenith
  • ½ blawd plaen
  • 2 ŵy
  • dŵr

Y saws

  • 200g caws Cymreig
  • 25g menyn
  • 3 llwy fwrdd llaeth neu hufen
  • 3-4 drop o saws Worcestershire
  • 1 llwy de mwstard
  • bara

Dull

  1. Toddwch y menyn mewn sosban, ychwanegwch y llaeth, trowch yn dda cyn troi bant y gwres. Rhowch y ddau fath o flawd mewn bowlen, cymysgwch yn dda a ychwanegwch y wyau.
  2. Ychwanegwch y cymysgedd llaeth ychydig ar y tro nes mae wedi cymysgu ac mae'r batter yn esmwyth.
  3. Arllwyswch y batter mewn i jwg a rhowch yn yr oergell am o leiaf 2 awr.
  4. I goginio – Cynheswch ffrimpan 15 – 18cm. Ychwanegwch ychydig o olew. Unwaith i'r pan gynhesi, arllwyswch mewn digon o batter i orchuddio gwaelod y ffrimpan. Coginiwch ar un ochr am 1-2 munud, trowch drosodd a pharhewch i goginio nes mae'n euraidd.
  5. Rhowch ar blât a gadwch yn gynnes wrth goginio'r gweddill.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Ryseitiau Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?