S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pancws banana fegan

Cynhwysion

  • 1 cwpan llaeth almwn neu gnau coco
  • 1 banana aeddfed
  • 1 cwpan blawd codi
  • ½ llwy de powdr pobi
  • 2 llwy fwrdd hadau llygad y cythraul (poppy)
  • darnau ffres pinafal
  • iogwrt fegan coconyt

Dull

  1. Stwnsiwch y banana ar blât.
  2. Gosodwch y blawd a phowdr pobi mewn bowlen fawr a chymysgwch yn drylwyr.
  3. Wnewch dwll yn y canol a chwipiwch yn y llaeth.
  4. Ychwanegwch y banana.
  5. Ychwanegwch 2 llwy fwrdd hadau llygad y cythraul a chymysgwch.
  6. Dylai'r "batter" bod yn drwchus.
  7. Cynheswch yr olew mewn i ffrimpan dros dymheredd cymedrol.
  8. Ychwanegwch 2 llwy fwrdd o'r "batter" i wneud pancws steil Americanaidd.
  9. Gallwch greu 4-5 ar y tro.
  10. Ffriwch ar bob ochr am 2-3 munud nes iddyn droi'n euraidd.
  11. Platiwch i fyny efo iogwrt fegan, y binafal, banana a choconyt.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?