S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Flapjacs mêl

Cynhwysion

  • 175g menyn
  • 330g ceirch uwd (os ydych chi ddim yn bwyta glwten, mae'n bosib defnyddio uwd di-glwten)
  • 125g siwgr brown golau
  • 55g sirop neu mêl
  • 70g rhesins/bricyll/datys/hadau blodyn yr haul

Dull

  1. Cynheswch y popty i 180c
  2. Rhowch y menyn, sirop a'r siwgwr mewn sosban.
  3. Cynheswch dros wres uchel am 2-3 munud nes wedi toddi.
  4. Ychwanegwch y ceirch uwd a chymysgu'n dda.
  5. Rhowch y gymysgeth yng ngwaelod tin a gwaelod fflat a chymysgu'n dda gan wasgu lawr gyda spatula.
  6. Pobwch am tua 25 nes yn euraidd ond dal yn feddal.
  7. Tynnwch o'r popty a oerwch am 10 munud cyn torri'n sgwariau.
  8. Gadewch nhw i oeri am ychydig eto yn y tin cyn eu tynnu a'i rhoi mewn bocs.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?